Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2026

Amser: 09.05 - 09.48
 


Preifat, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan MS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth  

·    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion (30 0 munud) – wedi'i ohirio tan 3 Mawrth

·    Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes

·    Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.

 

Dydd Mercher

·    Dadl Fer: Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (30 0 munud) - wedi'i ohirio tan 11 Chwefror

 

·    Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·    Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.

 

Mae trafodion Cyfnod 3 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) wedi'u hamserlennu ar gyfer tair awr. Mae 94 o welliannau mewn 13 o grwpiau. Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd egwyl o 10 munud yn digwydd cyn dechrau Cyfnod 3.

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026

 

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 11 Chwefror 2026 -

 

Dydd Mercher 4 Mawrth 2026 –

 

Cais gan Adam Price AS am ddadl ar gynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 -

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan Adam Price AS yn gofyn am amser ar gyfer dadl ar gynnig y mae wedi'i gyflwyno o dan Reol Sefydlog 26C.40 yn cynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau i’r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Chwefror i’r cynnig gael ei drafod.

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Cynigion Deddfwriaethol gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Chwefror:

 

Sioned Williams

NNDM9024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru).

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys.

b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw eu hawliau yn cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac 

c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â chynnal yr hawliau dynol hyn.

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r Ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd ei bod hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ystyried y cais ac y byddai'n ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i ddweud bod y Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r ddadl ar 24 Chwefror fel y trefnwyd. Nododd y Trefnydd y byddai hyn yn caniatáu amser ar gyfer dadl bellach cyn diwedd y Senedd bresennol pe bai angen un i ystyried unrhyw Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar y Bil.

 

</AI9>

<AI10>

4.2   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd ar y canlynol:

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn perthynas â chais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru i Fodiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i neilltuo amser yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer dadl ar yr adroddiad ar 18 Mawrth 2026.

 

</AI12>

<AI13>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI13>

<AI14>

6.1   Dull y Senedd o Ystyried adroddiadau ar newid y Rheolau Sefydlog

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei ddull o gynnig newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i'r Senedd cyn ei diddymu, gyda chyfres gyntaf o adroddiadau i'w hamserlennu ar gyfer eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Chwefror 2026 ac ail gyfres ar 11 Mawrth 2026.

 

</AI14>

<AI15>

6.2   Llythyr gan Fwrdd yr Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol mewn perthynas ag argymhellion sydd â'r nod o gryfhau Rheolau Sefydlog y Senedd

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r argymhellion cychwynnol yn deillio o'r Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd yn bwysig rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion a fydd yn deillio o'r Adolygiad a byddant yn ystyried ymateb unwaith y bydd yr adroddiad terfynol ar gael. O ystyried yr amser cyfyngedig iawn sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon, nododd y Pwyllgor Busnes ei bod yn debygol y bydd yn cynnwys y potensial ar gyfer ystyriaeth weithdrefnol o'r materion hyn fel rhan o'i adroddiad gwaddol.

Dywedodd y Llywydd y bydd hi'n cwrdd yr wythnos hon â Chadeirydd y Bwrdd Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol.

 

</AI15>

<AI16>

6.3   Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas ag ystyried newidiadau i Reol Sefydlog 23

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chynigion am newidiadau i'r Rheolau Sefydlog gan y Pwyllgor Deisebau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau cyn dychwelyd i ystyried y newidiadau arfaethedig ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

 

</AI16>

<AI17>

6.4   Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion mewn perthynas â ffurfioli Fforwm y Cadeiryddion

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i beidio â chynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ynghylch Fforwm y Cadeiryddion yn y Senedd bresennol.

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y potensial ar gyfer ystyriaeth weithdrefnol o'r mater hwn fel rhan o'i adroddiad gwaddol cyn y Seithfed Senedd.

 

</AI17>

<AI18>

6.5   Pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes drefniadau ar gyfer pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn a sawl opsiwn ar gyfer newidiadau posibl o ran arfer.

Nododd Paul Davies fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o blaid terfynur trefniadau ar gyfer cyfranogiad a phleidleisio o bell. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau cyn dychwelyd at y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>